bgw. Lefiticus 12:6-8
egw. Exodus 12:1-27; Deuteronomium 16:1-8

Luke 2

Hanes geni Iesu y Meseia

(Mathew 1:18-25)

1Tua'r un adeg dyma Cesar Awgwstws yn gorchymyn cynnal cyfrifiad drwy'r Ymerodraeth Rufeinig i gyd. 2(Hwn oedd y cyfrifiad cyntaf, gafodd ei gynnal cyn bod Cwiriniws yn llywodraethwr Syria.) 3Roedd pawb yn mynd adre i'r trefi lle cawson nhw eu geni, i gofrestru ar gyfer y cyfrifiad.

4Felly gan fod Joseff yn perthyn i deulu'r Brenin Dafydd, gadawodd Nasareth yn Galilea, a mynd i gofrestru yn Jwdea – yn Bethlehem, hynny ydy tref Dafydd. 5Aeth yno gyda Mair oedd yn mynd i fod yn wraig iddo, ac a oedd erbyn hynny'n disgwyl babi. 6Tra roedden nhw yno daeth yn amser i'r babi gael ei eni, 7a dyna lle cafodd ei phlentyn cyntaf ei eni – bachgen bach. Dyma hi'n lapio cadachau geni yn ofalus amdano, a'i osod i orwedd mewn cafn ar gyfer bwydo anifeiliaid. Doedd dim llety iddyn nhw aros ynddo.

Y Bugeiliaid a'r Angylion

8Yn ardal Bethlehem roedd bugeiliaid allan drwy'r nos yn yr awyr agored yn gofalu am eu defaid. 9Yn sydyn dyma nhw'n gweld un o angylion yr Arglwydd, ac roedd ysblander yr Arglwydd fel golau llachar o'u cwmpas nhw. Roedden nhw wedi dychryn am eu bywydau. 10Ond dyma'r angel yn dweud wrthyn nhw, “Peidiwch bod ofn. Mae gen i newyddion da i chi! Newyddion fydd yn gwneud pobl ym mhobman yn llawen iawn. 11Mae eich Achubwr wedi cael ei eni heddiw, yn Bethlehem (tref y Brenin Dafydd). Ie, y Meseia! Yr Arglwydd! 12Dyma sut byddwch chi'n ei nabod e: Dewch o hyd iddo yn fabi bach wedi ei lapio mewn cadachau ac yn gorwedd mewn cafn bwydo anifeiliaid.”

13Yn sydyn dyma filoedd o angylion eraill yn dod i'r golwg, roedd fel petai holl angylion y nefoedd yno yn addoli Duw!

14“Gogoniant i Dduw yn y nefoedd uchaf,
heddwch ar y ddaear islaw,
a bendith Duw ar bobl.”

15Pan aeth yr angylion i ffwrdd yn ôl i'r nefoedd, dyma'r bugeiliaid yn dweud wrth ei gilydd, “Dewch! Gadewch i ni fynd i Bethlehem, i weld beth mae'r Arglwydd wedi ei ddweud wrthon ni sydd wedi digwydd.”

16Felly i ffwrdd â nhw, a dyma nhw'n dod o hyd i Mair a Joseff a'r babi bach yn gorwedd mewn cafn bwydo anifeiliaid. 17Ar ôl ei weld, dyma'r bugeiliaid yn mynd ati i ddweud wrth bawb beth oedd wedi digwydd, a beth ddwedodd yr angel wrthyn nhw am y plentyn yma. 18Roedd pawb glywodd am y peth yn rhyfeddu at yr hyn roedd y bugeiliaid yn ei ddweud. 19Ond roedd Mair yn cofio pob manylyn ac yn meddwl yn aml am y cwbl oedd wedi cael ei ddweud am ei phlentyn. 20Aeth y bugeiliaid yn ôl i'w gwaith gan ganmol a moli Duw am bopeth roedden nhw wedi ei weld a'i glywed. Roedd y cwbl yn union fel roedd yr angel wedi dweud.

Cyflwyno Iesu yn y Deml

21Pan oedd y plentyn yn wythnos oed cafodd ei enwaedu, a'i alw yn Iesu. Dyna oedd yr enw roddodd yr angel iddo hyd yn oed cyn iddo gael ei genhedlu yng nghroth Mair.

22Pan oedd pedwar deg diwrnod wedi mynd heibio ers i'r bachgen gael ei eni, roedd y cyfnod o buro mae Cyfraith Moses yn sôn amdano wedi dod i ben.
2:22 dod i ben: Pan oedd gwraig Iddewig yn cael plentyn roedd hi'n cael ei hystyried yn ‛aflan‛. Roedd rhaid iddi aros adre nes i'r plentyn gael ei enwaedu yn wythnos oed, a wedyn am 33 diwrnod arall, cyn mynd i gyflwyno offrwm i Dduw.
,
b Felly aeth Joseff a Mair i Jerwsalem i gyflwyno eu mab cyntaf i'r Arglwydd
23(Mae Cyfraith Duw yn dweud: “Os bachgen ydy'r plentyn cyntaf i gael ei eni, rhaid iddo gael ei gysegru i'r Arglwydd” c 24a hefyd fod rhaid offrymu aberth i'r Arglwydd – “pâr o durturod neu ddwy golomen”). d

25Roedd dyn o'r enw Simeon yn byw yn Jerwsalem – dyn da a duwiol. Roedd dylanwad yr Ysbryd Glân yn drwm ar ei fywyd, ac roedd yn disgwyl yn frwd i'r Meseia ddod i helpu Israel. 26Roedd yr Ysbryd Glân wedi dweud wrtho y byddai'n gweld y Meseia cyn iddo fe farw. 27A'r diwrnod hwnnw dyma'r Ysbryd yn dweud wrtho i fynd i'r deml. Felly pan ddaeth rhieni Iesu yno gyda'u plentyn i wneud yr hyn roedd y Gyfraith yn ei ofyn, 28dyma Simeon yn cymryd y plentyn yn ei freichiau a dechrau moli Duw fel hyn:

29“O Feistr Sofran! Gad i mi, dy was,
bellach farw mewn heddwch!
Dyma wnest ti ei addo i mi –
30dw i wedi gweld yr Achubwr gyda fy llygaid fy hun.
31Rwyt wedi ei roi i'r bobl i gyd;
32yn olau er mwyn i genhedloedd eraill allu gweld,
ac yn rheswm i bobl Israel dy foli di.”

33Roedd Mair a Joseff yn rhyfeddu at y pethau oedd yn cael eu dweud am Iesu. 34Yna dyma Simeon yn eu bendithio nhw, a dweud wrth Mair, y fam: “Bydd y plentyn yma yn achos cwymp i lawer yn Israel ac yn fendith i eraill. Bydd yn rhybudd sy'n cael ei wrthod, 35a bydd yr hyn mae pobl yn ei feddwl go iawn yn dod i'r golwg. A byddi di'n dioddef hefyd, fel petai cleddyf yn trywanu dy enaid di.”

36Roedd gwraig o'r enw Anna, oedd yn broffwydes, yn y deml yr un pryd. Roedd yn ferch i Phanuel o lwyth Aser, ac yn hen iawn. Roedd hi wedi bod yn weddw ers i'w gŵr farw dim ond saith mlynedd ar ôl iddyn nhw briodi. 37Erbyn hyn roedd hi'n wyth deg pedair mlwydd oed. Fyddai hi byth yn gadael y deml – roedd hi yno ddydd a nos yn addoli Duw, ac yn ymprydio a gweddïo. 38Daeth at Mair a Joseff pan oedd Simeon gyda nhw a dechrau moli Duw a diolch iddo. Roedd yn siarad am Iesu gyda phawb oedd yn edrych ymlaen at ryddid i Jerwsalem.

39Pan oedd Joseff a Mair wedi gwneud popeth roedd Cyfraith yr Arglwydd yn ei ofyn, dyma nhw'n mynd yn ôl adre i Nasareth yn Galilea. 40Tyfodd y plentyn yn fachgen cryf a doeth iawn, ac roedd hi'n amlwg bod ffafr Duw arno.

Iesu'n mynd i'r deml pan oedd yn fachgen

41Byddai rhieni Iesu yn arfer mynd i Jerwsalem i ddathlu Gŵyl y Pasg bob blwyddyn, e 42a phan oedd Iesu yn ddeuddeg oed aethon nhw yno i'r Ŵyl fel arfer. 43Pan oedd yr Ŵyl drosodd dyma ei rieni yn troi am adre, heb sylweddoli fod Iesu wedi aros yn Jerwsalem. 44Roedden nhw wedi teithio drwy'r dydd gan gymryd yn ganiataol ei fod gyda'i ffrindiau yn rhywle. Dyma nhw'n mynd ati i edrych amdano ymhlith eu ffrindiau a'u perthnasau, 45ond methu dod o hyd iddo. Felly dyma nhw'n mynd yn ôl i Jerwsalem i edrych amdano. 46Roedd hi'r trydydd diwrnod cyn iddyn nhw ddod o hyd iddo! Roedd wedi bod yn y deml, yn eistedd gyda'r athrawon ac yn gwrando arnyn nhw ac yn gofyn cwestiynau. 47Roedd pawb welodd e yn rhyfeddu gymaint roedd yn ei ddeall. 48Cafodd ei rieni y fath sioc pan ddaethon nhw o hyd iddo, a dyma'i fam yn gofyn iddo, “Machgen i, pam rwyt ti wedi gwneud hyn i ni? Mae dy dad a fi wedi bod yn poeni'n ofnadwy ac yn chwilio ym mhobman amdanat ti.”

49Gofynnodd Iesu iddyn nhw, “Pam roedd rhaid i chi chwilio? Wnaethoch chi ddim meddwl y byddwn i'n siŵr o fod yn nhŷ fy Nhad?” 50Ond doedd ei rieni ddim wir yn deall beth roedd yn ei olygu.

51Felly aeth Iesu yn ôl i Nasareth gyda nhw a bu'n ufudd iddyn nhw. Roedd Mair yn cofio pob manylyn o beth ddigwyddodd, a beth gafodd ei ddweud. 52Tyfodd Iesu'n fachgen doeth a chryf. Roedd ffafr Duw arno, ac roedd pobl hefyd yn hoff iawn ohono.

Copyright information for CYM